|
Cofrestr Anffurfiol o Arbenigedd Ymchwil Addysgol
Cliciwch ar un o’r eiconau sefydliadol, a bydd hyn yn mynd â chi at restr o’r staff yn y sefydliad hwnnw sydd â diddordeb mewn, neu sy’n ymgymryd ag, ymchwil addysgol.
Mae’r rhestr ar gyfer pob sefydliad wedi ei chasglu yn anffurfiol gan aelod Gweithredol RhYAC y sefydliad hwnnw. Mae aelodau staff y sefydliad wedi nodi’r meysydd mewn ymchwil addysgol lle maent yn teimlo eu bod yn gallu hawlio bod ganddynt brofiad. Os oes aelodau o staff sy’n teimlo nad oes ganddynt brofiad ymchwil mewn maes, ond mae ganddynt ddiddordeb mewn datblygu yn y maes hwn, fe welir hyn o dan y pennawd gwahanol ‘diddordeb ymchwil’.
Mae’r rhestri ar gyfer pob sefydliad, hyd y gwyddom, yn gyflawn i Hydref 2008, fodd bynnag, os nad yw’ch enw'n bresennol a hoffech ychwanegu’ch enw at y gofrestr ar gyfer eich sefydliad, a fyddech cystal â chysylltu â’r cynrychiolydd RhYAC yn eich sefydliad.
Mae rhai rhestri sefydliadol yn y broses o gael eu cyfieithu ar hyn o bryd, felly os na ellwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen, cysylltwch â’r cynrychiolydd RhYAC yn eich sefydliad, a fydd yn gallu'ch helpu.
|