(Hyd 2007-Mehefin 2008)
S1. Yn nhermau’i ‘...primary intention ... to trial a funding and support structure for educational researchers in Wales that harnesses collaboration between institutions to build research capacity in an All Wales Educational Research Network’ (Cynnig RhYAC, t1) mae menter RhYAC wedi bod yn llwyddiannus iawn.
S2. Gweithiodd Pwyllgor Gwaith RhYAC yn effeithiol fel fframwaith rheoli ar gyfer y fenter, a’i lwyddiant yn deillio’n bennaf o gael cynrychiolwyr o’r holl sefydliadau oedd yn ymwneud â’r fenter. Gwnaethant hyrwyddo a rheoli dyfarnu bwrsarïau i wyth grŵp cydweithredol rhyng-sefydliadol. Yn y lle cyntaf bu 93 o academyddion o'r deg sefydliad addysg uwch (SAUau) yn cymryd rhan yn y 24 cais ar gyfer bwrsarïau. Gyda’r wyth bwrsari terfynol bu 51 o academyddion o naw sefydliad yn cymryd rhan.
S3. Dyma bynciau’r wyth cais am fwrsarïau:
Bywydau gwaith: naratifau am newid galwedigaethol o addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru wedi datganoli;
Addysg wledig;
Plant mewnfudwyr o Wlad Pwyl ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang;
Archwilio defnydd ymarferwyr y blynyddoedd cynnar o ryngweithiadau llafar ‘effeithiol’ mewn amgylcheddau awyr agored yng Nghymru;
Canfyddiadau ynghylch chwarae a chwarëusrwydd: goblygiadau o ran gweithredu’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru;
Ymchwiliad i fanteision TGCh wrth ddatblygu pedagogeg effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth mathemateg a gwyddoniaeth;
Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 4;
Dwyieithrwydd yn y blynyddoedd cynnar: Cymraeg fel ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen.
S4. Llwyddwyd i gyflawni’r bwriad o ddatblygu ymchwilwyr newydd a dibrofiad, gyda 15 o academyddion heb unrhyw brofiad ymchwil, a 12 gydag 1-5 mlynedd o brofiad, yn ymuno mewn prosiectau bwrsari â 15 o ymchwilwyr â mwy nag 11 o flynyddoedd o brofiad.
S5. Roedd y cyfnod o amser ar gyfer y fenter (Hydref 2007 i Fehefin 2008) yn broblem i bawb, ac oherwydd hynny roedd y gofyniad i grwpiau bwrsari lunio cynigion ar gyfer prosiect ymchwil mawr â chyllid rhwng dechrau mis Ionawr a dyddiad terfyn yr adroddiad terfynol yng nghanol mis Mai 2008 fwy neu lai'n anymarferol. Un grŵp yn unig oedd â chynnig datblygedig erbyn y dyddiad terfyn a’r rhan fwyaf o’r lleill wedi llwyddo i gwblhau rhan o’r gwaith sylfaen yn unig. Fodd bynnag, roedd 11 cynnig ar gyfer grantiau ar y gweill, un grant wedi’i hennill a naw papur yn cwmpasu ymchwil o weithgareddau’r bwrsarïau wedi’u cyflwyno i gynadleddau pwysig. Dylid pwysleisio hefyd fod pob un o’r grwpiau bwrsari yn parhau gyda’r gwaith o ddatblygu cynnig ar ôl dyddiad terfyn yr adroddiad terfynol ynghanol mis Mai.
S6. Cefnogwyd y fenter yn gryf gan y rhan fwyaf o’r 37 a gyfwelwyd ar gyfer y gwerthusiad. Wrth ymateb i gwestiwn penodol am eu hargraff gyffredinol am werth y fenter, cafwyd sylwadau megis ‘ardderchog’, ‘rhagorol’ a ‘phrofiad dwys’. Cysylltwyd y sylwadau cadarnhaol hyn mewn ffyrdd gwahanol â’r buddion a ddeilliai o gydweithio ar lefel sefydliadol ac ar lefel ryngddisgyblaethol ac unigol, â’r dysgu proffesiynol personol a gyflawnwyd, â’r synnwyr o bwrpas a grëwyd, ac â’r canolbwyntio ar faterion Cymru a'r radd uchel o ymrwymiad a chefnogaeth gan sefydliadau.
S7. Cofnodwyd lleiafrif bach o farnau amwys neu negyddol gan bump a gyfwelwyd gyda sylwadau oedd yn cynnwys y canlynol: ‘syniad mawrfrydig ond rhy ychydig rhy hwyr’, ‘ŵy'r curad – â photensial da ond yn rhy uchelgeisiol’, ‘y syniad iawn ond gormod o frys’ ac ‘yn bleserus ond efallai yn rhy hwyr’.
S8. Cydnabyddir yn eang fod cwymp wedi bod o ran gallu ymchwil addysg yng Nghymru ac ni ffurfiwyd RhYAC fel menter ‘fwled arian’ i drawsnewid y sefyllfa honno. Fe’i cynlluniwyd fel menter beilot i archwilio sut y gellid trawsnewid y sefyllfa, gan ddefnyddio model o rwydwaith cydweithredol a seiliwyd ar fwrsarïau cystadleuol ar raddfa fechan. Er hynny mae’r gwerthusiad wedi dangos fod RhYAC wedi ysbrydoli rhywfaint o drawsnewid. Er enghraifft, roedd o leiaf tri grŵp yn bendant yn bwriadu parhau â’r cydweithio ymchwil roeddynt wedi’i ddechrau, boed RhYAC II yn dilyn ai peidio, ac roedd o leiaf un grŵp bron iawn wedi cwblhau cynnig i’w gyflwyno i’r ESRC er gwaethaf y cyfnod byr roeddynt wedi’i gael i’w ddatblygu.
S9. Ar gyfartaledd roedd sefydliadau wedi cyfrannu at chwe chais (ystod 1-11) ac yn ymwneud â phump (1-7) o sefydliadau cydweithredol. Ar gyfartaledd roedd 9 (2-16) o staff yn gwneud ceisiadau tra bod y nifer yn ymwneud â grwpiau a gyllidwyd yn 5 (0-9) ar gyfartaledd. Ar gyfartaledd roedd sefydliadau’n ymwneud â 2 (0-5) ddyfarniad a gyllidwyd.
S10. Cafwyd tri deg un o ymatebion yng nghyswllt agweddau ar arweinyddiaeth, rheoli a gweinyddu’r fenter fel cyfanwaith (16) a’r prosiectau unigol (15). Cefnogwyd ansawdd uchel rheoli a gweinyddu’r fenter fel cyfanwaith yn frwdfrydig gan naw a gyfwelwyd. Defnyddiwyd sylwadau megis ‘gwaith rhagorol’, ‘rhyfeddol’ ac ‘ardderchog’ i ddisgrifio ymdrechion cydlynydd a gweinyddydd y fenter. Disgrifiodd saith arall a gyfwelwyd y rheoli a’r gweinyddu fel bod yn dda, weithiau gydag amodau am agweddau penodol megis cyllid.
S11. Ar lefel prosiect, roedd y barnau a fynegwyd am arweinyddiaeth y grwpiau bwrsari yn debyg. Ystyriai 10 allan o’r 15 a ymatebodd mewn cyfweliad fod arweinyddiaeth o’r grwpiau yn dda iawn neu’n well; ‘ffantastig’ ac ‘ardderchog’ oedd dau sylw. Teimlai tri fod eu prosiectau wedi’u rheoli’n dda a theimlai dau fod rheolaeth eu prosiectau’n ganolig – gydag un unigolyn yn honni ei fod yn ‘teimlo nad oedd wedi cyrraedd unman’.
S12. Disgrifiwyd rôl mentoriaid yn y grwpiau bwrsari bron yn ddiwahân fel llwyddiant, gydag 16 o’r 20 o ymatebwyr ar y mater yn talu teyrnged i’r mentoriaid a phedwar yn unig yn mynegi barn lai bodlon, e.e. ‘problematig’, ‘yn ganolig’ ac ‘yn rhy gynnar i ddweud'. Roedd y mentoriaid i gyd yn ymchwilwyr profiadol iawn a’r 16 a gyfwelwyd yn ystyried mewn ffyrdd gwahanol fod y mentoriaid yn barod iawn i roi o’u hamser a’u harbenigedd a hynny mewn dull proffesiynol dros ben, ond hefyd yn ddiymhongar a heb fod yn nawddoglyd. Disgrifiwyd mentoriaid fel pobl oedd ‘yn ysbrydoli’, ‘yn graff’, ‘yn ffantastig’ ac ‘yn effeithiol dros ben’. Roedd un ‘yn gwneud i bawb deimlo iddynt gael eu gwerthfawrogi’, un arall 'yn ein llywio i ffwrdd o drywyddion ofer' ac un arall 'yn cadw ein traed ar y ddaear'. Ymddengys ei bod yn rhesymol dod i’r casgliad fod nodwedd fentora RhYAC yn agwedd lwyddiannus iawn ar y meithrin gallu ymchwil.
S13. Cyfyngwyd y defnydd o’r VRE (amgylchedd ymchwil rhithwir) fwy neu lai i ddau grŵp. Dywedodd pedwar ar ddeg o’r un ar hugain a gyfwelwyd yng nghyswllt bwrsarïau nad oeddynt wedi’i ddefnyddio o gwbl, gyda’r saith oedd yn weddill yn nodi nad oeddynt wedi’i ddefnyddio lawer. Dylid pwysleisio fodd bynnag, na chafodd y diffyg defnydd o’r VRE unrhyw effaith niweidiol amlwg ar gynnydd y gweithgareddau bwrsari amrywiol, tra bod yr ychydig o ddefnydd a wnaethpwyd mewn nifer o achosion yn dangos y gallai ychwanegu gwerth.
S14. Er mwyn magu mwy o gydweithio a meithrin gallu ymchwil, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mewn ymgynghoriad â’r SAUau a rhanddeiliaid perthnasol eraill lunio agenda ymchwil strategol, a fydd er enghraifft yn nodi anghenion ymchwil addysg dros y pum mlynedd nesaf.
S15. Dylid neilltuo cyllid ar gyfer comisiynu ymchwil i’r pynciau hyn yn ogystal ag ar gyfer meysydd nas pennir ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod potensial ar gyfer cynigion creadigol, yn ogystal â rhai ymatebol, oddi wrth sefydliadau. Dylai’r meini prawf comisiynu gynnwys gofynion eglur o ran ymwneud â defnyddwyr, cydweithio rhyng-sefydliadol, gwaith rhyngddisgyblaethol a meithrin gallu ymchwil. Dylai modelau comisiynu gynnwys y cynllun bwrsarïau llwyddiannus yn ogystal â dyfarniadau ar raddfa fwy. Dylai’r cyntaf o’r ddau fodel hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer o leiaf un cylch arall er mwyn manteisio ar y cynigion da presennol na ellid eu cyllido yn y fenter beilot. Ni ellir penderfynu a fydd buddion i’w hennill o gynnal cylchoedd pellach nes sefydlu deilliannau terfynol y bwrsarïau cyfredol.
S16. Gan adeiladu ar ei lwyddiant wrth blannu gweithgarwch a gallu ymchwil o fewn fframwaith cystadleuol ond cydweithredol iawn, Pwyllgor Gwaith RhYAC a ddylai weithredu fel y corff comisiynu. Dylid adolygu’i berfformiad yn flynyddol trwy adroddiad cynhwysfawr ar ei gynnydd, a dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gweithgareddau a chynnyrch y gellir eu cysylltu â RhYAC. Gallai rhestr bosibl gynnwys agweddau megis:
Ceisiadau cydweithredol ar gyfer grantiau gyda dau neu fwy o sefydliadau yn cymryd rhan (gydag ystyriaeth i leoliad daearyddol, efallai);
Niferoedd a mathau o staff sy’n ymchwilwyr newydd ac sydd wedi cymryd rhan;
Niferoedd a mathau o ddigwyddiadau hyfforddi a’r staff sy’n eu mynychu;
Niferoedd o bapurau a gyhoeddir, cyflwyniadau mewn cynadleddau (yn arbennig cynadleddau rhyngwladol).
S17. O ystyried y buddion posibl yn sgil cynyddu gweithgarwch ymchwil sefydliadol a chenedlaethol, dylai’r pwyllgor gael ei gyllido gan danysgrifiad cymharol fach oddi wrth bob sefydliad i hwyluso cyfarfodydd (a chostau teithio) yn y tair prif ranbarth: de, gorllewin a gogledd. Yn ychwanegol at ei rôl o ran comisiynu a monitro, dylai geisio darparu llais ar gyfer hyrwyddo meithrin gallu ymchwil a chydweithio, lobïo ar gyfer cyllid cynyddol i gefnogi ymchwil addysg, adnabod nodau strategol a phynciau ar gyfer ymchwil addysg yng Nghymru, a threfnu digwyddiadau hyfforddi i Gymru gyfan a digwyddiad arddangos blynyddol ar gyfer ymchwil addysg yng Nghymru.
Noder – Mae’r fersiwn Gymraeg yn cael ei chyfieithu ar hyn o bryd ond bydd ar gael yn fuan.
2008-9
S1. Dyluniwyd RhYAC II i ymestyn ar RhYAC I trwy gyflwyno amrywiaeth o ddulliau o feithrin gallu ymchwil. Yn ogystal â bwrsari o’r math a gynigid gan RhYAC I, sef bwrsari ar gyfer grwpiau oedd yn cynllunio cais ar gyfer grant, cynigiai RhYAC II ddyfarniadau cystadleuol ar gyfer astudiaethau ar raddfa fechan, cymrodoriaethau cydweithredol (gyda chefnogaeth mentoriaid) a phrosiect cydweithredol gydag awdurdodau lleol (gw. Tabl 4). Hefyd cynhaliodd RhYAC II adolygiad o’r goblygiadau i Gymru o ganlyniadau prosiectau dan adain Rhaglen Ymchwil Dysgu ac Addysgu (TLRP) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
S2. Ystyriai’r rhai a gyfwelwyd fod RhYAC II yn llwyddiannus er bod amrywiaeth o ran y cysyniadau am y llwyddiant hwn. Er enghraifft, gwelid llwyddiant fel adeiladu ar RhYAC I trwy ‘glirio’ cynigion na chawsant gefnogaeth dan RhYAC I, ymestyn gweithgareddau RhYAC I, cyfnerthu’r gymuned ymchwil addysg a gâi ei meithrin gan RhYAC I ac arallgyfeirio i weithgareddau newydd. Mynegwyd pryderon gan gynnwys y canfyddiad bod pwyslais ar addysg cyfnod ysgol wedi ymyleiddio agweddau eraill ar addysg, a bod pwysigrwydd meithrin gallu (yn nhermau cyrsiau hyfforddi ac ati) wedi mynd ar goll.
S3. Mae ystod cynnwys gweithgareddau amrywiol RhYAC II yn cadarnhau yr ymdriniwyd ag amrediad o feysydd pwysig a bod ymdrech ymchwil sylweddol wedi ymgasglu o gwmpas addysg blynyddoedd cynnar (gw. Tabl 5).
S4. Roedd llai o grwpiau cydweithredol traws-sefydliadol yn RhYAC II na RhYAC I, a’r sefydliadau’n cydweithio â 2.2 o sefydliadau eraill ar gyfartaledd o’i gymharu â 2.9 ar gyfer RhYAC I (gw. tablau 6 a 7). Roedd mwyafrif y cydweithio (6/9) yn cynnwys parau o sefydliadau.
S5. Roedd y cymrodoriaethau cydweithredol yn arbennig o lwyddiannus wrth hyrwyddo dysgu proffesiynol gan yr unigolion oedd yn cymryd rhan. Gwerthfawrogid a chanmolwyd ansawdd cefnogaeth y mentoriaid yn ddiwahân, gydag amrywiaeth o gynnyrch a chyfleoedd (cyfarfodydd oddi ar y campws, mynychu cynadleddau, ysgrifennu ar y cyd, hyfforddiant 1 i 1 ac ati) yn deillio o gyllid cymharol fychan (£2,250 i bob cymrodoriaeth).
S6. Cofnodwyd ystod eang o ddatblygiad proffesiynol gan gyfranogwyr RhYAC II. Roedd sgiliau’n nodwedd gyson yn yr ymatebion hyn, gan syrthio i bedwar prif gategori: dulliau ymchwil, cyfathrebu, sefydliadol a phersonol/rhyngbersonol.
S7. Canmolwyd RhYAC II yn fawr am barhau i godi proffil ymchwil addysg a meithrin gallu, a’r cysylltiadau a chydweithio sefydliadol a hyrwyddid. Cafwyd adroddiadau o godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ac ehangder ymchwil addysg ar lefel sefydliadol, gydag amryw o ddangosyddion megis staff yn ymgymryd ag astudio am ddoethuriaethau, cychwyn ‘diwrnod ymchwil’, effeithiau lledaenu canfyddiadau ymchwil dan adain RhYAC ar addysgu, a thrafodaethau ar lefel rheolwyr am y rhyngwyneb rhwng ymchwil ac arfer. Bu adroddiadau eraill, fodd bynnag, a nodai mai ychydig neu ddim tystiolaeth o effeithiau sefydliadol a welid.
S8. Gwelid Is-gangellorion a rheolwyr uwch sefydliadau addysg uwch fel y dylanwadau allweddol wrth gyrraedd rhyngwyneb ymchwil-addysgu gwell mewn sefydliadau, yn enwedig wrth hwyluso diwylliannau ymchwil cyfredol neu gychwynnol trwy ddarparu adnoddau o ran amser a staff.
S9. Bu i ymatebwyr wahaniaethu mewn amryw o ffyrdd rhwng cymryd rhan mewn ymchwil ac ymgysylltu ag ymchwil. Soniodd nifer o ymatebwyr am y gofynion o ran defnyddio ymchwil i gefnogi adfyfyrio ar eu harfer eu hun (yn yr ystyr o ‘gadw’n gyfredol â’r llenyddiaeth’ yn hytrach na ‘chyflawni prosiect’). Fodd bynnag, gwnaethpwyd achos eglur i staff gael cymryd rhan weithredol mewn ymchwil.
S10. Dadleuai rhai ymatebwyr am yr angen i sefydliadau â phwyslais cryf ar raglenni addysg athrawon gydnabod buddion addysg athrawon a hysbysir gan ymchwil ac i wneud newidiadau yn eu polisïau llwyth gwaith a’u hagwedd gyffredinol tuag at weithgarwch ymchwil. Bu i ddau o’r bobl hyn, o sefydliadau gwahanol â phwyslais cryf ar addysgu, oleddfu’u barn trwy ddadlau ei bod hefyd yn bwysig sicrhau na fyddai amser gweithgareddau addysgu a gweinyddu yn ymestyn yn aneffeithlon, gan dorri lawr yn anfwriadol ar yr amser ar gyfer ysgolheictod ac ymchwil.
S11. Ar draws dau gyfnod RhYAC bu oddeutu 150 o staff academaidd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil a gyllidwyd (heb gyfrif y mewnbwn gwirfoddol sylweddol gan aelodau’r grwpiau Gweithredol ac Ymgynghorol, y mentoriaid na chawsant gyllid ac adolygwyr gwirfoddol y TLRP). Bu gan bron iawn bob sefydliad aelodau o staff yn cymryd rhan mewn un neu fwy o’r gweithgareddau a gyllidwyd yn RhYAC II (gw. Tabl 8).
S12. Ar y cyfan, bu gweithgareddau’r grwpiau bwrsari (gw. Tabl 5) yn adeiladu ar waith a gychwynnwyd yn RhYAC I, er dylid pwysleisio y sbardunwyd rhai o’r gweithgareddau hyn gan gryfderau ymchwil oedd eisoes yn bodoli. Er enghraifft roedd cysylltiadau cryf gan y pynciau addysg wledig, ‘bywydau gweithio’, TGCh a’r Cyfnod Sylfaen â gwaith blaenorol, ac yn wir, fe’u cynigiwyd gan aelodau grwpiau RhYAC I. Roedd dau ddyfarniad dan RhYAC II – yn ymwneud ag addysg gerddorol a bwlio yn y blynyddoedd cynnar – wedi cael eu hailwampio’n llwyddiannus o geisiadau RhYAC I na chawsant eu cyllido.
S13. Soniodd cyfranogwyr am ddimensiwn cymunedol cadarnhaol, gyda Chynhadledd RhYAC II fel dangosydd penodol o’r llwyddiant hwn. Ymysg deilliannau’r datblygu cymunedol hwn roedd canfyddiad o leihad o ran 'drwgdybiaeth' a pherthnasau gwell, a ddaeth yn sgil cydweithio rhwng sefydliadau â phwyslais cryf ar ymchwil a rhai â llai o’r pwyslais penodol hwnnw. Fodd bynnag, cafwyd adroddiad gan un a gyfwelwyd a deimlai yr ymddangosai fod ei bresenoldeb personol mewn gweithgareddau RhYAC yn aml dan gysgod canfyddiadau cyfranogwyr eraill am ei sefydliad.
S14. Fel fforwm cydweithredol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad, cydnabyddid yn eang fod y Grŵp Gweithredol wedi chwarae rhan fawr wrth sicrhau llwyddiant a chydlyniad RhYAC II. Yn sicr mae lle i argymell y dylai ymdrechion yn y dyfodol i feithrin gallu gadw at fforwm a phrosesau cydweithredol o’r un fath. Tueddai’r nifer fach o farnau gwrthwynebol ynglŷn ag effeithiolrwydd y Grŵp Gweithredol ymwneud â phrosesau a swyddogaethau gwaith y Grŵp yn hytrach na’r egwyddor o fforwm neu rwydwaith cydweithredol.
S15. Denai’r Grŵp Ymgynghorol ganmoliaeth eang am ei arbenigedd a chyfraniadau anhunanol o ran amser ac ymdrech tuag at achos adfywio ymchwil addysg yng Nghymru. Fe’i hystyrid yn eang i fod yn deg o ran ei werthusiadau o gynigion er bod nifer bach â barn i’r gwrthwyneb.
S16. Wrth ofyn sut y gellid bod wedi newid RhYAC II er mwyn gwella’r buddion i unigolion a sefydliadau, yr angen i adeiladu mwy o amser yn y rhaglen oedd y sylw a glywid fwyaf. Yn yr e-arolwg roedd gwahaniaeth barn (gw. Tabl 9) ar y pwynt a oedd digon o amser i wneud ceisiadau. Teimlai’r rhan fwyaf o ymatebwyr fod proses ymgeisio RhYAC II wedi’i hamlinellu’n eglur, ond bu i bron yr un nifer herio’r farn bod cyllid digonol gan RhYAC II.
S17. Roedd rhywfaint o hyder y byddai unigolion yn cynnal eu diddordebau a sgiliau ymchwil ac y byddai cysylltiadau a gychwynnwyd yn ystod dau gyfnod RhYAC yn parhau. Fodd bynnag, yn ôl y farn i’r gwrthwyneb, ni welid ond ychydig o effeithiau estynedig ar sefydliadau oherwydd cyfnod cyfyngedig gweithrediadau RhYAC a diffyg ymrwymiad gan sefydliadau. Roedd rhai hefyd o’r farn y byddai hi’n llai tebygol i’r rhwydweithiau rhyng-sefydliadol a grëwyd oroesi yn y cyfnod ar ôl RhYAC na’r grwpiau mewn sefydliad unigol.
S18. Edrychai nifer o’r rhai a gyfwelwyd tuag at fuddsoddiad gan CCAUC a LlCC er mwyn cynnal momentwm a thwf cymuned ymchwil addysg, a’r mentrau rhwydweithio a chydweithredol yn benodol. Yn yr e-arolwg roedd gwahaniaeth barn am werth RhYAC fel “... platfform cadarn o brofiad o’r broses ymgeisio er mwyn i dimau sefydliadol a rhwydweithiau rhyng-sefydliadol greu cynigion da yn y dyfodol” gyda chynifer o ymatebwyr yn cytuno â’r rhai a fynegai ansicrwydd. Fodd bynnag, lleiafrif bychan yn unig a anghytunai’n llwyr â’r gosodiad.
S19. S19. Yn ôl barn mwyafrif cymharol uchel (70%+) o ymatebwyr i’r e-arolwg (gw. Tabl 10), dylai’r canlynol fod yn nodweddion o unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol:
- Dosbarthu cyllid i ymchwilwyr a myfyrwyr doethuriaethau ar draws sefydliadau;
- Ymchwil nad yw’n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â Chymru yn unig;
- Buddion i sefydliadau sy’n eglur ac yn ddiriaethol er mwyn sicrhau ymrwymiad llawn rheolwyr sefydliadau;
- Ymchwil o ansawdd uchel fel y sylfaen orau i feithrin gallu yng Nghymru;
- Cyfleoedd sy’n agored i bob sefydliad;
- Rhaid dilyn ffynonellau cyllid ar draws Cymru a thu hwnt yn weithredol.
Casgliadau
S20. O ystyried popeth, teimlaf yn hyderus fod ffynonellau amrywiol data a gwybodaeth y gwerthusiad hwn wedi darparu gafael digonol ar y materion perthnasol imi allu cynnig yn betrus set o gasgliadau.
S21. Felly mae’n eglur imi y byddai’n gamgymeriad mawr i ganiatáu i’r cynnydd a gafwyd trwy RhYAC edwino’n ddim, a’r cynnydd hwnnw yn cynnwys cynnydd o ran cydweithio, meithrin gallu ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymchwil i wella addysg ac addysg athrawon.
S22. Fodd bynnag, ni ellir gosod y cyfrifoldeb am ddatblygu a gwella sylfaen ymchwil addysg yng Nghymru ar un grŵp yn unig.
S23. Mae consensws cyffredinol o fewn cymuned RhYAC ar y pwyntiau canlynol:
- Mae ymchwil addysg yn un o’r prif ddulliau o hyrwyddo gwellhad a newid cadarnhaol o fewn addysg ymhob sector.
- Heb lefel briodol o weithgarwch ymchwil a ddylunnir i gynyddu dealltwriaeth o sut gellir gwella addysg ar lefel system, lefel gymdeithasol a lefel unigol o fewn ei chyd-destun ei hun, bydd unrhyw genedl mewn perygl o ddiffyg gweithredu afiach o ran ansawdd y profiadau a deilliannau addysgol i’w holl ddinasyddion.
- Mae ymchwil addysg yn werthfawr ar draws sbectrwm o lefelau.
Ar un pen er enghraifft, gellir defnyddio gwybodaeth a llenyddiaeth ar sail ymchwil ac sydd eisoes yn bodoli i hysbysu a hyrwyddo’n gyson welliannau o ran arfer ar lefel ymarferwyr a’u sefydliadau, ysgolion neu weithleoedd.
Ar y pen arall, gall ymchwil o’r radd flaenaf a gyflawnir yn lleol gyfrannu at newidiadau arwyddocaol o ran polisi ac arfer cenedlaethol yn ogystal ag at feithrin gwybodaeth fyd-eang.
- Mae potensial gan Gymru i gynyddu’i chyfraniad at ragoriaeth ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, ac i’r perwyl hwn mae angen arni gymuned o ymchwilwyr addysg â lefel uchel o sgiliau.
S24. Mae’r gwerthusiad o RhYAC wedi amlygu’r canlynol:
- Gyda lefel o gyllid sy’n gymharol fach, mae’n bosibl creu ymwybyddiaeth uwch o bwysigrwydd ymchwil addysg, a hyrwyddo meithrin gallu ymchwil a gweithgarwch ymchwil cydweithredol ar draws sefydliadau a allai fod â chenadaethau sy’n arwyddocaol o wahanol (e.e. sefydliadau sy’n canolbwyntio ar agweddau neu sectorau gwahanol o fewn addysg, neu sy'n gosod pwyslais yn bennaf ar naill ai addysgu neu ar ymchwil).
- Mae craidd dichonadwy a chynyddol o arbenigedd ymchwil mewn nifer o feysydd polisi ac arfer penodol, er enghraifft addysg ôl-orfodol ac addysg oedolion, addysg wledig, TGCh mewn addysg ac addysg blynyddoedd cynnar.
- Er gwaethaf cymryd rhan yn RhYAC, ymddengys nad yw rhai sefydliadau addysgu a/neu sefydliadau â phwyslais cryf ar addysg athrawon eto wedi hwyluso ac ymlynu, ar lefel sefydliadol, â datblygu diwylliant er gwella a hysbysir gan ymchwil neu sy'n weithredol o ran ymchwil.
- Fel fforwm ar draws Cymru ar gyfer cynrychiolaeth ac ymrwymiad rhyng-sefydliadol ar faterion ymchwil addysg, daeth buddion sylweddol yn sgil RhYAC i sefydliadau ac ymchwilwyr unigol, ac i les cyffredinol ymchwil addysg yng Nghymru.
S25. Yn fy marn i mae RhYAC II wedi cynyddu'r sylw a roddir i’r goblygiadau gan bob rhanddeiliad mewn ymchwil addysg. Mae'r gosodiadau isod yn gyffredinol i bob aelod o bob cymuned o randdeiliaid. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio fy mod yn cydnabod bod rhai sydd angen ystyried y cyngor a rhai sydd eisoes yn ymlynu â’r syniadau neu arferion da cysylltiedig ac yn eu gweithredu.
- I’r llywodraeth mae angen darparu arweiniad strategol wrth ddiffinio anghenion y genedl o ran ymchwil addysg, noddi rhaglenni cystadleuol o ran cyllido ymchwil, a herio sefydliadau i ddatblygu’u defnydd o ymchwil a’u cyfranogiad mewn ymchwil.
Gellir cryfhau gweithredu yn y meysydd hyn yn sylweddol trwy gysylltu’n bwrpasol â chynrychiolwyr sefydliadau, e.e. trwy ryw fath o fforwm tebyg i RhYAC, trwy gynllunio a gweithredu unrhyw strategaeth neu raglen.
- I reolwyr sefydliadau addysg uwch mae angen gwerthuso buddsoddiad eu sefydliad mewn ymchwil addysg a’i botensial i wella’u rhaglenni.
Mae angen iddynt gyfnerthu unrhyw gryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn eu gweithgareddau ymchwil addysg. Lle bo’n briodol, rhaid iddynt ystyried y ffordd orau o fynd i’r afael â’r goblygiadau o ran llwyth gwaith o wella’r rhyngwyneb addysgu-ymchwil.
Hefyd mae angen bod yn rhagweithiol wrth gysylltu â llywodraeth a defnyddwyr ymchwil posibl eraill er mwyn adnabod datblygiadau strategol ac anghenion ymchwil addysg.
- I academyddion unigol mae angen iddynt gydnabod bod rhaid ymgysylltu ag ymchwil addysg neu gymryd rhan ynddo er mwyn gwireddu’i botensial i wella’u harfer a deilliannau dysgu’u myfyrwyr.
Mewn cyd-destunau â phwyslais cryf ar addysgu, yn cynnwys addysg athrawon, mae angen sicrhau optimeiddio rheolaeth bersonol ar addysgu a gweinyddu er mwyn hwyluso ymgysylltu ag ymchwil addysg neu gymryd rhan ynddo.
|