WERN logo  English
Hafan
Pwyllgor Gwaith
Rhagor am RhYAC
Cyfleoedd Cyllido
Ymgeiswyr Noddedig
Cymorthfeydd Mentora
Adroddiadau’r Prosiect
Arbenigedd Ymchwil
Gwerthusiad
Adnoddau
Cysylltwch â ni

Pwyllgor Gwaith RhYAC

Mae pob penderfyniad ynglŷn â chynlluniau a chynnydd RhYAC yn cael eu gwneud gan y Pwyllgor Gwaith . Mae’r pwyllgor yn cynnwys un ar ddeg aelod, un o bob sefydliad addysg uwch yng Nghymru sydd ag adran addysg neu adran gysylltiol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn cwrdd yn rheolaidd gyda lleoliad y cyfarfodydd yn cylchdroi ledled Cymru er mwyn hwyluso pethau i gymaint o’r aelodau â phosibl fynychu.

Sylwer bod copïau o Gofnodion Gweithredol RhYAC ar gael gan Gynrychiolwyr Sefydliadol (Gweithredol) RhYAC neu Weinyddydd RhYAC (C Fiona Thomas). Mae copïau o Gofnodion y Grŵp Cynghori hefyd ar gael gan Weinyddydd RhYAC (C Fiona Thomas).

Aelodau’r Pwyllgor Gwaith yw:

Dr Susan Davies

Dr Susan Davies, Coleg y Drindod, Caerfyrddin(Cadeirydd)
s.m.b.davies@trinity-cm.ac.uk

Mae Sue, oedd gynt yn seicolegydd addysg, yn uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol. Ei diddordebau yw meithrin galluoedd a chynhwysiant cymdeithasol ac roedd yn Gyd-Gyfarwyddwr prosiect TLRP yr ESRC, ‘Prosiect Dysgu Cydradd: Hwyluso cyfraniad athrawon mewn ymarfer mwy cynhwysol

Mae’n gynrychiolydd Cymru ar Gyngor Gweithredol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) ac yn aelod o weithgor y Fforwm Strategol dros Ymchwil mewn Addysg (SFRE).

Yr Athro Sally Power

Yr Athro Sally Power, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Is-gadeirydd)
powers3@cf.ac.uk
http://www.cardiff.ac.uk/socsi/contactsandpeople/academicstaff/M-P/professor-sally-power-overview.html

Mae Sally yn Gymrawd Athrawol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ac mae ganddi brofiad helaeth o ymchwilio ar gymdeithaseg addysg a pholisi addysg. Ei diddordebau ymchwil yw: cymdeithaseg addysg yn gyffredinol, addysg a dosbarth cymdeithasol, cymdeithaseg polisi addysg a chymdeithaseg y cwricwlwm. Mae Sally yn gyd-olygydd Sociology ac mae’n aelod o fyrddau golygyddol y canlynol: British Journal of Sociology of Education; International Journal of Inclusive Education; International Studies in Sociology of Education; Journal of Education Policy; Journal of Educational Administration and History; London Review of Education; a Praxis Educativa. Hi hefyd (gyda Peter Aggleton a Michael Reiss) yw golygydd y gyfres Foundations and Futures in Education sy’n cael ei chyhoeddi gan Routledge.


Mr David Longman David Longman, Uwch Ddarlithydd TG, Yr Ysgol Addysg Casnewydd
david.longman@newport.ac.uk

Mae David yn Ddarlithydd Hŷn TGC Addysg, yn Ysgol Addysg, Prifysgol Cymru, Casnewydd. Mae ei ddiddordebau bron yn gyfan gwbl ym maes TGC gan ei fod yn berthnasol i bob cam addysgol. Ar hyn o bryd mae e’n datblygu prosiect ar raddfa fach yn ymwneud â robotigs yn y Cyfnod Sylfaen, arolwg o lythrennedd Cyfnod Allweddol 3 ac arferion TGC. O safbwynt Addysg Uwch, mae e’n dechrau Grŵp Dysgu sy’n cael ei wella gan Dechnoleg, fel rhan o’r Ganolfan Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu, yn y Brifysgol.


Dr Gwyn Lewis Dr Gwyn Lewis, Dirprwy Bennaeth y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes: Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu
eds094@bangor.ac.uk
http://bilingualism.bangor.ac.uk/people/gwyn_lewis.php.cy

Brodor o Gaernarfon yw Gwyn Lewis a mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yn y dref cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor a mynd ymlaen i ennill doethuriaeth yno ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Bu'n Bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ac yn Ymgynghorydd Addysg Gymraeg i Awdurdod Addysg Gwynedd cyn ei benodi ar staff y Coleg Normal (wedyn, Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor). Fe'i dyrchafwyd yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes yn 2007, gyda chyfrifoldeb penodol fel Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu.
Ei ddiddordebau ymchwil yw addysg Gymraeg a dwyieithog, dwyieithrwydd, a datblygiad ieithyddol plant, yn enwedig lle mae dwy iaith yn cael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i drosglwyddo cynnwys. Mae wedi dal amryw o swyddi ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn y gorffennol sy'n adlewyrchu'r arbenigedd hwn. Mae'n gyd-olygydd cyfres Trafodion Addysg – Education Transactions ac mae ar Fwrdd Golygyddol Gwerddon, cyfnodolyn academaidd newydd ar y we a sefydlwyd i gyhoeddi papurau ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg. O dan nawdd y Ganolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd a sefydlwyd ym Mangor yn 2007, mae'n ymchwilio ar hyn o bryd i agweddau ar addysg iaith treftadaeth ac addysg drochi yng nghyd-destun ysgolion Cymraeg a dwyieithog.


Yr Athro Trisha Maynard Yr Athro Trisha Maynard, Cyd-Gyfarwyddwraig Weithredol y Ganolfan Ymchwil Plant
t.maynard@swansea.ac.uk
http://www.swansea.ac.uk/staff/academic/HumanSciences/maynardtrisha/

Yn athrawes ysgol gynradd i ddechrau, ymunodd Trisha â’r Adran Addysg, Prifysgol Abertawe ym 1991 fel tiwtor rhan amser ar y cwrs PGCE cynradd a swyddog ymchwil ar gyfer prosiect wedi’i gyllido, a oedd yn ymdrin â mentora mewn Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon (ITET). Fe’i penodwyd yn ddarlithydd ym 1995 a chwblhaodd ei doethuriaeth (ar ddysgu yn yr ysgol gan fyfyrwyr-athrawon ysgol gynradd) ym 1998. Ym 1999 daeth yn Gyfarwyddwraig y rhaglen Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Yn 2003 symudwyd staff y rhaglen o Hendrefoelan i Gampws Singleton er mwyn ffurfio Adran Astudiaethau Plentyndod. Roedd Trisha yn Bennaeth yr Adran tan fis Ionawr 2008 pan ymgyfunodd yr Adran â’r Ganolfan Ymchwil Plant; ar hyn o bryd mae Trisha yn Gyd-Gyfarwyddwraig Weithredol y Ganolfan. Mae Trisha wedi cyhoeddi nifer mawr o eitemau ar ystod eang o faterion sy’n ymwneud ag addysg ysgolion cynradd (yn enwedig addysg blynyddoedd cynnar) ac yn fwy diweddar ym maes ECS hefyd. Mae wedi cyflwyno papurau mewn seminarau a chynadleddau yn y DU a dramor, er enghraifft yn Tsiecoslofacia, Norwy, Gwlad yr Iâ, Malta, Awstralia a’r UDA. Mae Trisha yn ymddiriedolwraig Plant yng Nghymru a Chwarae Cymru fel ei gilydd, mae hi ar Fwrdd Cylchgronau Plant y BBC ac mae wedi bod yn ymgynghorydd addysg ar gyfer ‘Harry and Toto’, cyfres o gartwnau wedi’u hanimeiddio sy’n cael eu darlledu ar hyn o bryd ar Cbeebies.


Yr Athro Patrick Costello Yr Athro Patrick Costello, Athro mewn Addysg Gynradd a Dirprwy Gyfarwyddwr (Ymchwil) Canolfan Ymchwil ac Ysgolheictod Pedagogaidd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
p.costello@glyndwr.ac.uk
http://www.glyndwr.ac.uk/en/Academicschools/EducationCommunity
/Staffprofiles/PatrickCostello/


Gynt yn athro ysgol gynradd ac yn Ddarlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Hull, mae diddordebau ymchwil Patrick yn cwmpasu ystod eang o bynciau. Mae’i gyhoeddiadau'n cynnwys naw llyfr am addysg gynradd, damcaniaeth ac arfer dadlau, addysg bersonol a chymdeithasol, addysgu sgiliau meddwl, ac ymchwil gweithredu. Ef yw cyd-olygydd The Journal of Pedagogical Research and Scholarship ac mae’n aelod o fwrdd golygyddol Teaching Thinking and Creativity.

Dr Gary Beauchamp

Dr Gary Beauchamp,
Director of Research – School of Education
University of Wales Institute, Cardiff
gbeauchamp@uwic.ac.uk
http://www3.uwic.ac.uk/english/education/humanities/staff/pages/gbeauchamp.aspx

Dr Beauchamp is Director of Research for the School of Education and a Reader in Education. After many years working as a primary school teacher, Dr Beauchamp moved into higher education as a lecturer at Swansea University. He became programme director for the primary PGCE course as well as lecturing in primary science, music and education and professional studies. He also taught on a range of MA modules and supervised research students. He moved to fulfil the same duties with Swansea School of Education before taking the post of Programme Director for the BA (Hons) Educational Studies degree at UWIC in 2007.

Dr Beauchamp’s research interests focus on four main areas: primary education; ICT in education, music education (the area in which he gained his Ph.D. in 1996) and primary school science education. He is currently leading two research projects funded by the Welsh Educational Research Network (WERN) and is a member of an international group of researchers investigating the impact of the Interactive Whiteboard in education. He has served as external examiner for several universities.

In addition to the above, Dr Beauchamp is also an Additional Inspector for Estyn (where he undertook a full-time secondment for six months) and has inspected a range of educational providers. He is also a Governor in a primary school.


David Turner Professor David Turner, MA, PhD, PGCE, AcSS, FRSA
dturner@glam.ac.uk
http://people.glam.ac.uk/view/762/

Mae David Turner yn Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae e’n gweithio yng Nghyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol lle mae ganddo gyfrifoldeb am hybu ymchwil mewn Addysg.

Mae’i ddiddordebau ymchwil yn cynnwys hanes addysg flaengar, polisi, cyllid a llywodraethu sefydliadau addysgol, addysg gymharol a damcaniaeth mewn astudiaethau addysg. Mae ef wedi cyhoeddi’n eang ar y pynciau hyn, ac mae wedi bod yn ddarlithydd ar ymweliad yn Japan, Mecsico, Canada a’r UDA.

Cafodd ei lyfr, Theory of Education (Continuum, 2004) dderbyniad gwresog, ac enillodd Wobr Llyfrau Cymrodoriaeth Addysg y Byd ar gyfer 2004/2005. Cyhoeddwyd Theory and Practice of Education (Continuum, 2007) yn 2007.


Dr Malcolm Thomas Dr Malcolm Thomas, Dirprwy Ddeon, Cyfadran y Celfyddydau a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
mlt@aber.ac.uk
http://aber.ac.uk/sell/

Mae diddordebau Malcolm wedi canolbwyntio ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr sy’n hybu iechyd, ac yn fwy diweddar estynnwyd y gwaith hwn i China a Chanada. Mae ymchwil ar y gweill ar hyn o bryd i werthuso buddion Canolfan Lles mewn ysgol uwchradd wledig yn Ontario.


Dr Howard Tanner Dr Howard Tanner, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil mewn Addysg
howard.tanner@smu.ac.uk
http://www.smu.ac.uk/research/cgi-bin/website.cgi?pleace=staff&id=71

Addysgodd Howard fathemateg a TGCh mewn ysgolion uwchradd yn Lerpwl, Salford a Bryste am 16 mlynedd cyn ymuno â’r Adran Addysg ym Mhrifysgol Abertawe. Symudodd i Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2006 lle mae’n Brif Ddarlithydd mewn Addysg ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil mewn Addysg. Ar hyn o bryd mae Howard yn addysgu ar y cwrs TAR mathemateg, y cwrs MA(Add) ac ef yw arweinydd y cwrs ar gyfer gradd Meistr ymchwil (M.Res) yn Addysg Mathemateg. Mae’n gydawdur ar 9 llyfr ym meysydd mathemateg, TGCh ac asesu ac erthyglau niferus mewn cylchgronau.

 

  Hawlfraint (h) Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru 2008, (h) Ymchwil Addysg Cymru.