|
||||||||||||
|
Cyfleoedd Cyllido RhYAC 2008-9 Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus yn 2007-8, gall RhYAC gynnig y cyfleoedd canlynol ar gyfer gweithgarwch ymchwil cydweithredol yn 2008-9. Y TLRP YNG NGHYMRU: ADOLYGIAD Mae RhYAC ar y cyd â’r Rhaglen Ymchwil Dysgu ac Addysgu (TLRP) (rhaglen ymchwil addysg fwyaf a mwyaf dylanwadol y DU) yn cyllido cyfle cyffrous i ymchwilwyr SAUau Cymru adeiladu cysylltiadau â LlCC. Rydym yn cyllido prosiect pum mis (1 Chwefror 2009 – 30 Mehefin 2009) a gellir dyfarnu swm hyd at £20,000. Mae £10,000 ar gael i gefnogi Cymrodoriaeth ar Leoliad ran amser gydag APADGOS. Rôl y Cymrodor ar Leoliad fydd llunio cysylltiadau gyda’r Cynulliad er mwyn hwyluso adolygiad desg o ganfyddiadau’r TLRP a’u perthnasedd i’r agenda addysg yng Nghymru. Bydd y gweddill (£10,000) yn cyllido Rhwydwaith Adolygu traws-sefydliadol. Rhaid dychwelyd ffurflenni datgan diddordeb erbyn dydd Gwener 16 Ionawr 2009 at f.thomas@drindod.ac.uk. MAE'R CYFNOD YMGEISIO WEDI'I ESTYN TAN 23 IONAWR 2009 Ymchwil Cydweithredol gydag Awdurdodau Lleol Wrth i’w allu gynyddu, mae gan RhYAC ddiddordeb mewn cydweithio â gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yn y gymuned addysg ehangach yng Nghymru gan gyflawni’u hanghenion ymchwil. Mae Adrannau Addysg mewn Awdurdodau Lleol (ALlau) yn ddarpar ddefnyddwyr ymchwil addysgol, a dyma farchnad bosibl ar gyfer gwaith ymchwil addysgol y byddai RhYAC mewn sefyllfa dda i’w chyflenwi. Bwriedir y bydd RhYAC yn dyrannu £38,750 i gomisiynu project ymchwil cydweithredol ar raddfa fechan i archwilio sut gall ymchwil academaidd ymateb i anghenion ymchwil adrannau addysg ALlau yng Nghymru wrth iddynt ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Hydref 2008 a bydd y cyllid ar gyfer y cyfnod 1 Rhagfyr 2008 i 30 Mehefin 2009. Cynllun Bwrsarïau GrŵpYn sgil llwyddiant y cynllun hwn yn ystod blwyddyn gyntaf RhYAC, penderfynwyd ei redeg eto, gan ei rannu’n ddau gategori: Categori 1 : Ysgrifennu cynnig cyllido. Byddai cyllid o hyd at £12,000 ar gael i bob grŵp, ond disgwylir y bydd cyllid cyfatebol ar gael gan sefydliadau. Gwahoddir ceisiadau gan grwpiau y bydd eu gwaith yn canolbwyntio ar themâu strategol sy’n berthnasol i agenda ymchwil Llywodraeth Cynulliad Cymru (e.e. fel yr awgrymir gan Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion cyfredol, ’Cymru’n Un: Agenda flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru, neu ’Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith. Categori 2 : Cyllido projectau bach. Byddai cyllid o hyd at £5,000 ar gael i bob grŵp, ond rhaid bod cyllid cyfatebol ar gael gan sefydliadau. Y grŵp sy’n ymgeisio fydd yn pennu natur y project, ond bydd yn weithgaredd ymchwil o sylwedd ar raddfa fechan megis treialu offerynnau, ymholi setiau data, cynnal astudiaeth gwmpasu, ysgrifennu cyhoeddiad/papur cynhadledd ar y cyd. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Hydref 2008 a bydd y cyllid ar gyfer y cyfnod 1 Rhagfyr 2008 i 30 Mehefin 2009.
Cynllun Cymrodoriaeth GydweithredolCaiff cynllun lleoliadau ei gyllido yn dwyn yr enw Cynllun Cymrodoriaeth Gydweithredol. Bydd cymrodorion yn ymuno â phroject ymchwil cydweithiwr mwy profiadol (y mentor) am bum diwrnod (yn olynol neu bum diwrnod ar wahân) i ddysgu am fethodoleg, dadansoddi neu faterion ymchwil eraill. Bydd y cyllid arfaethedig, a’r cyllid cyfatebol fydd ar gael gan sefydliad y Cymrodor, yn diogelu deg diwrnod o amser y Cymrodor – pum diwrnod i’w treulio ar y project ymchwil, a phum diwrnod i gyflawni gwaith datblygu perthynol yn sefydliad y Cymrodor, neu i ddatblygu arbenigedd y Cymrodor e.e. darllen cefndirol, datblygu offeryn ymchwil, paratoi dogfennau ymchwil ynglŷn â moeseg neu fynediad, ysgrifennu adroddiad ac ati. Bydd y mentor neu sefydliad y mentor yn derbyn honorariwm fel cydnabyddiaeth am yr amser a roddir i fentora’r Cymrodor. Y swm o gyllid ar gael fydd hyd at £2,250, sy’n cynnwys yr honorariwm o £1,000 i’w dalu i’r Mentor. Disgwylir i weddill y cyllid gael ei glustnodi ar gyfer darparu pum diwrnod o gostau cyflenwi am amser y Cymrawd ynghyd ag unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth. Rhaid i sefydliad y Cymrawd dalu arian cyfatebol a thalu costau cyflenwi am bum diwrnod pellach. CYLCH CYNTAF Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12 Rhagfyr 2008. Cynhelir y lleoliadau rhwng 1 Chwefror 2009 a 30 Mai 2009.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 13 Chwefror 2009. Cynhelir y lleoliadau rhwng 9 Mawrth a 30 Mai 2009.
|
|||||||||||
| Hawlfraint (h) Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru 2008, (h) Ymchwil Addysg Cymru. | ||||||||||||