|
||||||||||||
|
Mae project Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru (RhYAC) yn cael ei gyllido ar y cyd gan yr ESRC a CCAUC. Ei amcan yw meithrin galluoedd ymchwil mewn Ysgolion Addysg ac adrannau cysylltiedig mewn Addysg Uwch. Nod RhYAC yw datblygu galluoedd ymchwil addysgol yng Nghymru trwy feithrin ymchwil cydweithredol rhwng sefydliadau er mwyn rhannu sgiliau a phrofiad, a thrwy wneud hynny cynorthwyo’i gilydd i gynyddu lefelau arbenigedd. Felly mae RhYAC yn cynnig cyllid i gefnogi datblygiad projectau cydweithredol rhwng sefydliadau yng Nghymru. Mae aelodau RhYAC yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr (Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru gynt), Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Abertawe, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Prifysgol Morgannwg, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae gan bob sefydliad gynrychiolydd ar gorff penderfynu RhYAC, sef Pwyllgor Gwaith RhYAC. Ariennir RhYAC gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC/HEFCW) a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) tan Orffennaf 2009. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan y Rhaglen Ymchwil Addysgu a Dysgu (TLRP) ac mae ganddo gysylltiadau cryf â’r fenter meithrin galluoedd yn yr Alban, sef yr Applied Education Research Scheme (AERS).
|
|||||||||||
| Hawlfraint (h) Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru 2008, (h) Ymchwil Addysg Cymru. | ||||||||||||